![20220804_DPM_Z9 CWG2022_Wales women vs England_0052-ZF-10736-84577-1-002-051.jpg](https://static.wixstatic.com/media/758fd4_8df9769aa23145a9b6ca66f5abd0697e~mv2.jpg/v1/fill/w_88,h_88,al_c,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,blur_2,enc_auto/758fd4_8df9769aa23145a9b6ca66f5abd0697e~mv2.jpg)
Chwaraewyr
Meini Prawf Cymhwysedd
Er mwyn bod yn gymwys i gynrychioli Cymru rhaid i chwaraewyr fodloni’r meini prawf canlynol:
​
a) dal pasbort Prydeinig
b) bod yn aelod cyswllt o Hoci Cymru
​
Yn ogystal â bodloni’r ddau faen prawf uchod, mae’n rhaid i chi allu rhoi tystiolaeth i UN o’r meini prawf canlynol:
​
Ganed y chwaraewr yng Nghymru
Ganwyd rhieni'r chwaraewr yng Nghymru
Ganed taid a nain y chwaraewr yng Nghymru
Mae'r chwaraewr wedi byw yng Nghymru am 2 flynedd yn barhaus, hyd at y pwynt dewis cyntaf
Cafodd chwaraewyr eu geni yn Nhiriogaeth Dibynnol Prydain ar y Goron neu Diriogaeth Dramor Prydain neu maent yn byw ynddi – ac o ganlyniad barnwyd eu bod yn gallu dewis pa un o Wledydd Cartref Prydain Fawr yr hoffent gael eu hystyried i’w cynrychioli.
​
Dim ond os ydynt o dan yr oedran angenrheidiol erbyn 1 Ionawr ym mlwyddyn y gystadleuaeth neu fel arall fel y tybir gan Ffederasiwn Hoci Ewrop / Ffederasiwn Hoci Rhyngwladol y bydd chwaraewyr yn gallu cynrychioli sgwadiau dan oed Cymru (Dan 21, D18, D16).
Mae meini prawf gwahanol yn berthnasol ar gyfer Meistri, y chwaraewyr hynny sydd â chenedligrwydd deuol a'r rhai sydd wedi cynrychioli gwlad arall ar lefel dan 21 neu lefel uwch. Rhaid i unrhyw berson o'r fath sy'n dymuno sicrhau ei fod ar gael i'w ddewis gysylltu â Hoci Cymru yn gyntaf i gael eglurhad.
​
Am ragor o wybodaeth gweler Is-ddeddfau mewn Polisïau a Gweithdrefnau.