Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi partneriaeth arloesol â Hoci Cymru, y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer hoci yng Nghymru.
Bydd y cydweithrediad strategol newydd hwn yn adeiladu ar y berthynas gadarnhaol ac ymrwymedig sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddau sefydliad, sydd wedi'i gwreiddio mewn gweledigaeth i ddatblygu'r gamp yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Drwy eu hymrwymiad cyffredin i feithrin doniau pobl a hyrwyddo hoci ar bob lefel, o ddechreuwyr i chwaraewyr elît, nod y bartneriaeth yw ategu'r rhaglen a'r amgylchedd perfformiad uchel presennol ym Mhrifysgol Abertawe, gan barhau i ddenu, datblygu a chadw athletwyr talentog drwy gynnig cymorth, arweiniad a chyfleoedd cydweithredol cyffrous.
Ar y cyd, bydd y bartneriaeth yn cynnig arbenigedd amrywiol a phrofiad cyfoethog a fydd yn sbarduno hoci yng Nghymru ac yn cefnogi iechyd a lles myfyrwyr a'r gymuned ehangach.
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Rydyn ni wrth ein boddau'n atgyfnerthu ein partneriaeth â Hoci Cymru, a fydd yn helpu i feithrin ymagwedd gydweithredol at sicrhau bod hoci'n parhau i dyfu a chael ei amlygu ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'r ymdrech hon ar y cyd yn adlewyrchu ein gweledigaeth ehangach ar gyfer chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe a bydd yn creu cyfleoedd estynedig a gwell, gan gynnwys cyfranogiad chwaraewyr, ymchwil, addysg, mentrau masnachol, cynnal digwyddiadau a datblygu maes hoci mewn modd cynhwysfawr: o lawr gwlad i haenau perfformiad uchel.”
Bydd y cydweithrediad yn atgyfnerthu darpariaeth hoci bresennol y Brifysgol, gan ddeillio o gynnal cystadleuaeth dan 18 oed EuroHockey ar y cyd â Hoci Cymru. Mae gan Brifysgol Abertawe ddau gae hoci o safon ryngwladol, eisteddle â 300 o seddi i wylwyr a adeiladwyd yn ddiweddar, a rhestr o chwaraewyr presennol a chyn-fyfyrwyr uchel eu bri. Mae unigolion nodedig, megis Megan Langley a Jacob Draper, wedi dod i'r amlwg drwy raglen hoci gynhwysfawr y Brifysgol.
Meddai Paul Whapham, Prif Weithredwr Hoci Cymru:
“Mae hoci mewn prifysgolion yn gwneud cyfraniad allweddol at feithrin twf a datblygiad athletwyr hynod fedrus ledled Cymru. Rydyn ni wrth ein boddau'n atgyfnerthu ein cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe. Dyma bartneriaeth sydd wedi ffynnu ers sawl blwyddyn. Mae'r cysylltiad estynedig hwn yn cryfhau ein perthynas bresennol, yn ogystal ag amlinellu llwybr eglur ar gyfer mentrau yn y dyfodol.
“Mae gan Brifysgol Abertawe rai o'r cyfleusterau gorau yng Nghymru, ynghyd â hanes ardderchog o reoli digwyddiadau. Bydd cydweithredu ag adran Gwyddor Chwaraeon y brifysgol sy'n flaenllaw yn ei maes yn gyfle mawr i athletwyr presennol ac athletwyr yn y dyfodol. Ein dyhead yw gweld timau BUCS Prifysgol Abertawe'n dringo i gystadlu ymysg goreuon y Deyrnas Unedig, gan gyfrannu at hyrwyddo hoci ar lefel clybiau lleol a'r lefel ryngwladol.
“Mae ymrwymiad i feithrin twf a datblygiad wrth wraidd y bartneriaeth hon, gan gynnig llwybrau newydd i athletwyr, myfyrwyr a staff hyrwyddo eu gyrfaoedd. Mae'r cydweithrediad hwn yn dangos ein hymrwymiad cyffredin i wella safonau hoci ymysg prifysgolion yng Nghymru a'r tu hwnt.”
312
312